Cynhadledd, Arddangosfa a Chinio Gwobrwyo
Blynyddol CTA Cymru – Bwciwch Nawr

Peidiwch â cholli digwyddiad blynyddol nesaf CTA Cymru ar 19 a 20 Hydref 2011.  Ein Prif Siaradwr eleni yw Jane Davidson, cyn-Weinidog LlCC, sydd bellach yn bennaeth y prosiect INSPIRE newydd yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin.  Mae’r siaradwyr eraill yn cynnwys Cadeirydd Pwyllgor Defnyddwyr Trafnidiaeth Gyhoeddus Adele Baumgard a Paul Dear, Pennaeth Rhaglen Cymunedau yn Gyntaf Llywodraeth Cymru.

Rhaglen y Gynhadledd a Ffurflen Bwcio

Gwybodaeth am Noddwyr ac Arddangoswyr

Categorïau Gwobrau CC 2011

1. 
Gweithredwr Cludiant Cymunedol Gorau - Noddwyd gan Swwitch

Mae cludiant cymunedol wedi darparu ystod eang o atebion o ran hygyrchedd, symudedd a theithio i unigolion a chymunedau ar draws Cymru ers nifer o flynyddoedd. Rydym yn awyddus i glywed am y Sefydliadau CC gorau yn y wlad ac am sut maen nhw’n cyflenwi gwasanaethau arloesol i ddiwallu anghenion eu cymunedau lleol.

2. Gwobr Marchnata Gorau - Noddwyd gan Mike Clarke Printers

Mae Gwobr Marchnata Gorau CTA Cymru’n cydnabod llwyddiannau Gweithredwyr Cludiant Cymunedol yn eu hymdrechion i farchnata eu gwasanaethau. Gall enwebiadau amrywio o ymgyrchoedd cyflawn ac ymarferion brandio i hyrwyddo a digwyddiadau unigol.  Felly os dylai eich grwp CC lleol gael ei gydnabod am eu dawn farchnata, rydym ni eisiau clywed amdano.

3. Cyfraniad Eithriadol i Gludiant Cymunedol - Noddwyd gan Taith

Mae’r wobr hon yn cydnabod unigolyn sydd wedi cael effaith sylweddol ar un neu fwy o sefydliadau, neu ar Gludiant Cymunedol yng Nghymru at ei gilydd.  Mae’n agored i unrhyw un sydd wedi gweithio (gyda neu heb dâl) o fewn neu ar ran y sector Cludiant Cymunedol.

4. Gwirfoddolwr Cludiant Cymunedol Gorau - Noddwyd gan Sewta

Mae rôl gwirfoddolwyr yn hollbwysig er mwyn i gludiant cymunedol lwyddo ar draws Cymru.  Mae cannoedd o bobl yn ymroi o’u hamser a’u hegni er mwyn cynorthwyo cynlluniau cludiant cymunedol fel gyrwyr, aelodau pwyllgor, staff swyddfa a chynorthwywyr teithwyr.  Er eu bod efallai yn dod o gefndiroedd gwahanol iawn, mae ganddyn nhw i gyd un peth yn gyffredin – awydd i gefnogi eu cymunedau a rhoi rhywbeth yn ôl iddynt.  Os ydych chi’n teimlo bod rhywun yn eich ardal chi wedi gwneud cyfraniad diflino a rhagorol i unrhyw agwedd ar CC, yna enwebwch nhw os gwelwch yn dda.

5. Consortia Cludiant Rhanbarthol Mwyaf Cefnogol - Noddwyd gan Tracc

Oes gennych chi Gonsortiwm Cludiant Rhanbarthol sy’n gefnogol iawn yn eich cynorthwyo yn eich gwaith bob dydd a ddylai gael ei gydnabod yn eich barn chi? Ydyn nhw’n eich cynnwys chi wrth gydgynllunio Cynlluniau a Strategaethau Cludiant Rhanbarthol?  Ydyn nhw’n sicrhau bod anghenion eich defnyddwyr yn cael eu hadlewyrchu yng nghynlluniau eu rhaglenni a’r gweithgareddau maen nhw’n eu cefnogi?  Efallai eu bod yn eich helpu gyda chymorth ariannol, neu o bosibl yn rhannu eu gwybodaeth a’u profiad gyda chi i helpu i’ch sefydliad ffynnu?  Os felly, rhowch wybod i ni.



 

Members area
Lost password?

Membership

News & Hot Topics
Summary of Trustee Minutes 20_3_12
Read more...
ANNOUNCEMENT ABOUT BSOG REFORM
Read more...
Summary of CTA Board Meeting 14/12/11
Read more...
CTA Quality Mark Endorsement
Read more...

© CTA 2009 | Accessibility | Sitemap | Web design & development by Zen Web Solutions

Community Transport Association UK is a charitable company limited by guarantee. Registered in Cardiff no. 1985361 Registered office: Highbank, Halton Street, Hyde, Cheshire, SK14 2NY. Registered as a charity in England and Wales no. 1002222. Charity Registered in Scotland No. SC038518.

Investor in People