Cynhadledd Cymru 2010

Cinio Gwobrwyo a Chynhadledd Flynyddol CTA Cymru 2010

Cynhaliwyd digwyddiad eleni ar 13 a 14 Hydref yng Ngwesty’r Marriott Abertawe.  Dechreuwyd ar ddydd Mercher gyda rownd derfynol Gyrrwr MiDAS y Flwyddyn Cymru, ac wedyn Cyfarfod Blynyddol ein Haelodau yn y prynhawn a Chinio Gwobrwyo Mawr gyda’r hwyr.

Enillwyr Gwobrau 2010

Gwobr Marchnata Gorau – Noddwyd gan TAITH                     

Enillydd – Cymdeithas Trafnidiaeth Wledig Preseli 

Chwith i Dde: Caroline Wilson CTWP a Sarah Leyland Jones, Cadeirydd CTA Cymru


Gwirfoddolwr Cludiant Cymunedol Gorau – Noddwyd gan Sewta          
                                                        

Cyd-enillwyr: Dean Price (Aberfan ac Ynysowen) a Stephen Lewis (Grass Routes Sir Fynwy)

                               

Chwith i Dde: Brian Kemp o Sewta a Dean Price            Chwith i Dde:   Brian Kemp a Stephen Lewis

Sefydliad Mwyaf Cefnogol - Noddwyd gan Trac

Enillydd – Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot



De i Chwith: Y Cyng. Trefor Roberts, Cadeirydd TraCC yn cyflwyno ei wobr i John Flower CBSCNPT.





 

Gweithredwr Cludiant Cymunedol Gorau – Noddwyd gan SWWITCH

Enillydd – Clwb Anabl Aberhonddu a’r Cylch

Chwith i Dde: Y Cyng. Sandra Miller, SWWITCH yn cyflwyno ei gwobr i Lisa Marsh, Clwb Anabl Aberhonddu a’r Cylch.


Gyrrwr MiDAS y Flwyddyn 2010 – Noddwyd gan Q’STRAINT

Enillydd – George Doyle, Galw’r Gyrrwr (Gogledd Sir Ddinbych Cyf.)  Yn ail – Anthony Slater, Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot.   

                                                

Chwith i Dde: Phil Stratton, Q’STRAINT gyda George Doyle ac Anthony Slater (llun 2)

Tynnwyd lluniau MiDAS gan Jon Nock idis Creative Marketing

Hoffai CTA Cymru ddiolch i bob un o’n noddwyr am eu cefnogaeth yng nghynhadledd eleni; a hefyd i Q’STRAINT am fod mor garedig â noddi ein derbyniad diodydd cyn y cinio.

Ar ddydd Iau, daeth mwy na 90 cynrychiolydd i’r gynhadledd a agorwyd gan Ieuan Wyn Jones AC, y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth. Ar ben hynny, clywodd y cynrychiolwyr gan Gomisiynydd Traffig Cymru a Chanolbarth Lloegr a Chomisiynydd Pobl Hyn Cymru yn ogystal â sesiynau ar redeg gwasanaeth Adran 22, lleihau  carbon a gwasanaethau cludo cleifion.  Daeth cadeirydd newydd CTA y DU, Dr Stephen Hickey, â’r diwrnod i ben trwy lansio ein hadroddiad Cyflwr y Sector Cymru cyntaf. Cafwyd arddangosfeydd gan Q’straint, Bluebird, Traveline a Brecon Beacons Coachwork yn y digwyddiad hefyd. 

Cyflwyniadau: - Chris Ashman - Richard Cope - Chris Endacott Sesiynau prynhawn

Adroddiad Cyflwr y Sector Cymru

 

Members area
Lost password?

Membership

News & Hot Topics
Summary of Trustee Minutes 20_3_12
Read more...
ANNOUNCEMENT ABOUT BSOG REFORM
Read more...
Summary of CTA Board Meeting 14/12/11
Read more...
CTA Quality Mark Endorsement
Read more...

© CTA 2009 | Accessibility | Sitemap | Web design & development by Zen Web Solutions

Community Transport Association UK is a charitable company limited by guarantee. Registered in Cardiff no. 1985361 Registered office: Highbank, Halton Street, Hyde, Cheshire, SK14 2NY. Registered as a charity in England and Wales no. 1002222. Charity Registered in Scotland No. SC038518.

Investor in People